Grwp Llandrillo Menai

Grwp Llandrillo Menai
Further Education College
EIN CYFEIRIADAU:
  • Grwp Llandrillo Menai
  • Rhos on Sea
  • Conwy
  • LL284HZ
Amdanom Ni

Sefydlwyd Grŵp Llandrillo Menai yn 2012 yn dilyn uno Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Mae'n cyflogi 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i tua 21,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr addysg uwch, ledled Ynys Môn a siroedd Conwy, Dinbych a Gwynedd.

Bwriad y Grŵp yw cefnogi economi Gogledd Cymru drwy roi i'r bobl leol y sgiliau a'r cymwysterau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y rhanbarth yn gystadleuol ac yn llwyddiannus. Mae'r amrywiaeth eang o gyrsiau, y profiadau dysgu o safon uchel, y cyfleusterau penigamp a'r staff amryddawn sydd gan y Grŵp oll yn cyfrannu at gyflawni'r nodau hyn.

Oherwydd y cyfleoedd ychwanegol a gynigir i astudio cyrsiau gradd ac i ennill cymwysterau proffesiynol, gall mwy o bobl ifanc a dysgwyr hŷn gyflawni eu potensial. Mewn Canolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, ceir cyfleusterau gwych i fyfyrwyr Addysg Uwch y Grŵp.

TYSTYSGRIF BROFFESIYNOL MEWN ADDYSG I RADDEDIGION

TYSTYSGRIF BROFFESIYNOL MEWN ADDYSG

Hoffech chi ddechrau ar yrfa werth chweil yn dysgu pobl ifanc ac oedolion? Neu a ydych chi eisoes yn addysgu, ond yn awyddus i gael cymhwyster cydnabyddedig?

Yn ychwanegol, mae tystiolaeth o'r blynyddoedd diwethaf yn dangos bod cwblhau'r cwrs yma'n gwella potensial gyrfaol a chyflogaeth aelodau'r cwrs.

Pa un a ydych yn athro neu'n athrawes newydd neu brofiadol, bydd y cwrs rhan-amser hwn yn eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa ym maes addysg ôl-orfodol. Cewch y sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwyster a fydd yn eich galluogi i ddechrau neu i barhau i addysgu ym maes addysg bellach, ym maes dysgu oedolion neu ddysgu yn y gymuned, mewn carchardai neu ym maes dysgu seiliedig ar waith.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer rhai sydd ag uchelgais i fod, neu sydd eisoes yn ddarlithwyr coleg, darparwyr addysg oedolion neu addysg gymunedol, hyfforddwyr yn y gwasanaeth milwrol neu'r gwasanaeth cyhoeddus, swyddogion hyfforddi ac eraill sy'n ymwneud ag addysgu neu hyfforddi.

 

MANYLION ALLWEDDOL

  • AR GAEL YN: Bangor, Dolgellau, Rhos-on-Sea

  • LEFEL 4-6

  • DULL ASTUDIO: Rhan amser

  • 2 flynedd (1 diwrnod NEU hanner diwrnod a noson yr wythnos)

  • Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

    • Dolgellau

 

CYSWLLT:

https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/professional-graduate-certificate-in-education