NI YW'R GWEITHLU ADDYSG BELLACH
Rydym yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn ymrwymedig iawn i helpu dysgwyr i fagu hyder, chwalu ffiniau ac i gredu ynddynt eu hunain er mwyn cyrraedd eu llawn botensial. Rydym yn gweithio gyda grŵp amrywiol o ddysgwyr, o gyn-ddisgyblion ysgol i weithwyr a dysgwyr hŷn, ac hynny mewn amrywiaeth o leoliadau — mewn colegau, canolfannau cymunedol a sefydliadau cyflogwyr. Ein nod yw helpu dysgwyr i gyflawni'r cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddilyn eu breuddwydion, os yw hynny i gael mynediad i addysg uwch neu sicrhau eu swydd ddelfrydol.
Weithiau, rydym yn arbenigo mewn pwnc penodol ac yn rhannu ein angerdd a'n brwdfrydedd gyda dysgwyr er mwyn eu helpu i lwyddo ac i fod y gorau y gallant fod.
Yn fwy aml, rydym yn dysgu ystod o bynciau trwy ddarlithoedd ac arddangosiadau ymarferol. Rydym yn darparu arweiniad a chefnogaeth i ddysgwyr trwy gydol eu taith ddysgu, o lefel mynediad, TGAU, Lefel A, cymwysterau galwedigaethol, prentisiaethau ac addysg uwch. Rydym yn eu hysbrydoli, a'u helpu i wneud y penderfyniadau cywir ar eu cyfer yn seiliedig ar eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
Y colegau Addysg Bellach yng Nghymru yw Coleg Penybont, Coleg Caerdydd a'r Fro, Coleg Cambria, Coleg Ceredigion, Coleg Gwent, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Sir Gâr, Coleg y Cymoedd, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Merthyr Tudful, Grŵp NPTC, Coleg Sir Benfro a Coleg Catholig Dewi Sant.
DARLITHWYR
Fel darlithwyr addysg bellach, rydym yn helpu grŵp amrywiol o ddysgwyr i gyflawni'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu nodau.
GWEITHWYR CYMORTH ADDYSGU
Fel gweithwyr cymorth addysgu addysg bellach, rydym yn cefnogi darparwyr a dysgwyr addysg bellach trwy annog cyfranogiad llawn mewn dysgu, hyrwyddo annibyniaeth a helpu dysgwyr i ddatgelu eu potensial llawn.
FFRAMWAITH DYSGU A DATYBLYGIAD PROFFESIYNOL
Fframwaith Dysgu a Datblygiad Proffesiynol ar gyfer y gweithlu ôl-16 yng Nghymru!