BETH YW DARLITHYDD ADDYSG BELLACH?
Rydym yn helpu grŵp amrywiol o ddysgwyr i ddarganfod sgiliau, angerdd a thalentau newydd fel y gallant gyflawni'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i wireddu eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn cyflwyno darlithoedd, tiwtorialau ac arddangosiadau mewn amryw o leoliadau gan gynnwys colegau, canolfannau cymunedol a sefydliadau cyflogwyr, gyda'r nod cyffredin o ysbrydoli dysgwyr i gredu ynddynt eu hunain a'u gallu i lwyddo.
Pennir lefel y gefnogaeth a'r arweiniad a ddarparwn yn ôl anghenion unigol dysgwyr a'u hamcanion gyrfaol. Rydym yn monitro datblygiad ac yn darparu adborth i brofion a gwaith cwrs. Rydym yn aml yn gweithredu fel modelau rôl a mentoriaid i helpu dysgwyr i wneud y penderfyniadau sy'n addas iddyn nhw.
Rydym yn frwdfrydig ac yn ymroddedig i'r hyn a wnawn, yn ymdrechu bob amser i helpu dysgwyr i fod y gorau y gallant fod, fel y gallant gyflawni'r canlyniadau gorau posib yn unol â safonau’r cyrff dyfarnu ac arholi.
Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH
Er mwyn bod yn gymwys fel darlithydd addysg bellach, fel rheol mae angen meddu ar gymhwyster o leiaf lefel 3 yn y pwnc dewisol. Mae llawer o athrawon AB hefyd wedi ennill graddau, graddau sylfaen neu gymwysterau proffesiynol. Er nad yw'n orfodol, mae darlithwyr AB fel arfer yn dilyn TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PCET), sef rhaglen addysg athrawon broffesiynol sy’n darparu cymhwyster yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.
Mae'r cyflog a amlinellir isod wedi'i fwriadu fel canllaw.