NI YW'R GWEITHLU DYSGU SEILIEDIG AR WAITH
Ni yw'r arweinwyr yn ein meysydd dewisol, yn rhannu ein gwybodaeth a'n profiad i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr. Rydym yn darparu dysgwyr gyda'r offer sydd eu hangen arnynt i adeiladu sylfaen o wybodaeth, angerdd a sgiliau, dim ots pa lwybr maent yn dewis.
Mae ein dull ymarferol o ddysgu yn cyfuno theori ag ymarfer, gan annog dysgwyr i fod yn greadigol, i fentro a dod yn aelodau gwerthfawr o weithlu'r dyfodol. O sgiliau galwedigaethol a chyflogadwyedd i brentisiaethau, rydym yn cymryd ein dysgwyr ar daith y tu hwnt i ffiniau'r ystafell ddosbarth ac i mewn i’r gweithle i gyflawni'r canlyniadau gorau posib ar gyfer y dyfodol.
YMARFERYDD DYSGU SEILIEDIG AR WAITH
Rydym yn darparu cefnogaeth, asesiad a phrofiadau addysgu a dysgu gwerthfawr i ddysgwyr fel y gallant gyflawni'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddilyn eu breuddwydion.
RHEOLWR DYSGU SEILIEDIG AR WAITH
Fel rheolwyr dysgu seiliedig ar waith, rydym yn hynod o arloesol a phrofiadol mewn ymgysylltu â chyflogwyr a deall anghenion strategol gweithlu Cymru yn ein maes. Rydym yn rhoi ein brwdfrydedd ar waith trwy hyrwyddo disgwyliadau uchel ar gyfer staff a myfyrwyr ym mhob agwedd o ddysgu seiliedig ar waith.