BETH YW RHEOLWR DYSGU SEILIEDIG AR WAITH?
Fel rheolwyr dysgu seiliedig ar waith, rydym yn hynod o arloesol a phrofiadol mewn ymgysylltu â chyflogwyr a deall anghenion strategol gweithlu Cymru yn ein maes. Rydym yn rhoi ein brwdfrydedd ar waith trwy hyrwyddo disgwyliadau uchel ar gyfer staff a myfyrwyr ym mhob agwedd o ddysgu seiliedig ar waith.
Rydym yn arbenigwyr yn ein sector, oherwydd mae'r hyn rydym yn ei wneud yn bwysig i ni. Rydym yn goruchwylio rhaglenni dysgu seiliedig ar waith a chyfleoedd prentisiaeth. Rydym yn fedrus mewn ymgysylltu â chyflogwyr, gyda dull strategol o gyrraedd anghenion economi Cymru ac arwain ar ddatblygu a gweithredu mentrau newydd i ysbrydoli dysgu gydol oes. Mae rheoli contractau yn rhan allweddol o'r swydd fel y mae gweithio gydag ystod eang o bobl ar draws ysgolion, colegau, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant.
Rydym yno bob cam o'r ffordd, yn monitro ansawdd rhaglenni dysgu seiliedig ar waith a chyfleoedd prentisiaeth yn agos, ym mhob rhan o'r broses, i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion pob dysgwr.
Oherwydd ein bod yn angerddol am yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn cymryd cyfrifoldeb llawn am ansawdd y cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaeth rydyn ni'n eu darparu. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd gwell i gysylltu â chyflogwyr ac i wella ansawdd a pherfformiad ein rhaglenni er mwyn gwella canlyniadau.
Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH
Dylai rheolwyr dysgu seiliedig ar waith fod â cymwysterau angenrheidiol sydd eu hangen i weithio yn eu maes dewisol. Gall rheolwyr hefyd ennill cymhwyster sicrwydd ansawdd mewnol a/neu gymhwyster arweinyddiaeth a rheolaeth.