BETH YW YMARFERYDD DYSGU SEILIEDIG AR WAITH?
Rydym yn darparu cefnogaeth werthfawr, cyfleoedd asesu a phrofiadau dysgu i ddysgwyr i'w galluogi i ddod yn aelodau gwerthfawr, brwdfrydig o'u gweithleoedd.
Rydym yn cyfuno theori â dysgu ymarferol a dysgu cyfunol i ysbrydoli dysgwyr i fod yn greadigol, i fentro a gwneud y dewisiadau sy'n iawn iddyn nhw.
Mae ein lefelau uchel o arbenigedd yn ein gwneud yn fodelau rôl a mentoriaid rhagorol. Rydym yn adnabod ac yn cefnogi anghenion dysgwyr, yn monitro eu datblygiad ac yn rhannu ein hadborth i'w helpu i ddatblygu.
Mae ein gwaith yn amrywio o ddysgu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol, hyfforddi a mentora ac asesu sgiliau a gwybodaeth. Sut bynnag y byddwn yn ei ddarparu, cawn ein cymell gan ein hangerdd i weld dysgwyr yn llwyddo a thyfu fel unigolion.
Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH
Dylai ymarferydd dysgu seiliedig ar waith feddu ar y cymwysterau a'r profiad angenrheidiol i weithio yn ei faes dewisol. Er nad yw'n orfodol, gall ymarferwyr hefyd ennill TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PCET), sef rhaglen addysg athrawon broffesiynol sy'n darparu cymhwyster yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Bydd angen cymhwyster asesu ar ymarferwyr hefyd a gallant ddewis gweithio tuag at ddyfarniad dilyswyr mewnol.