- Addysg Oedolion Cymru
- Caerdydd
- Caerdydd
- CF10 5NB
- Addysg Oedolion Cymru
- Abertawe
- Swansea
- SA1 1NW
- Addysg Oedolion Cymru
- Glyn Ebwy
- Monmouthshire
- NP23 8XA
- Addysg Oedolion Cymru
- Y Drenewydd
- Powys
- SY16 1RB
- Addysg Oedolion Cymru
- Wrecsam
- Wrexham
- LL11 1HR
- Addysg Oedolion Cymru
- Bangor
- Gwynedd
- LL57 2JA
Addysg Oedolion Cymru
Ni yw darparwr cenedlaethol dysgu oedolion yn y gymuned i Gymru, sy'n ymroddedig i ddysgu gydol oes ac ehangu cyfranogiad. Rydym yn dod â dysgu o ansawdd ac uwchsgilio i gymunedau, gan sicrhau ein bod yn gwneud ein cyrsiau yn hygyrch ac yn hyblyg i ddiwallu anghenion a doniau poblogaeth amrywiol o oedolion. Rydym yn gweithio ar y cyd â llawer o sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid eraill i ddarparu cyfleoedd dysgu anffurfiol a ffurfiol sy’n newid bywydau.
Rydym yn credu mewn pobl
Beth bynnag fo’ch oedran, mae dysgu yn hanfodol mewn bywyd. Credwn mewn darparu sgiliau a chymwysterau ychwanegol i oedolion sy’n ddysgwyr, a chynnig dysgu hygyrch er mwyn gwella eu bywydau. Rydym yn bodoli er eich budd chi, ac fe wnawn gydweithio i addysgu rhywbeth newydd i chi.
Dysgu gweithredol ym mhob cwr o Gymru
Rydym yn sefydliad aelodaeth a gall ein dysgwyr gyfrannu’n weithgar at y broses o gynllunio a threfnu eu dysgu. Mae ein dull o lywodraethu yn seiliedig ar gynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys dysgwyr, ac rydym yn ceisio bod yn llais ar ran bob oedolyn sy’n dysgu yng Nghymru.
Rydym yn darparu mynediad at addysg o lefel cyn mynediad hyd at gymwysterau ar lefel pedwar.