MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £16,824 - £17,106 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 (Ffes 2) - Ysgol Godre'r Berwyn
Cyngor Gwynedd
Cyflog: £16,824 - £17,106 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION DILYNOL
YSGOL GODRE'R BERWYN
(Cyfun 3 - 18: 577 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Medi 2024
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2 - FFES 2
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profoad o weithio yn y cyfnod Sylfaen neu gyda plant meithin o fantais, ond nid yn hyn yn amod ar gyfer ymgeisio.
Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal a bod ar gael i weithio wuthnos ychwanegol yn ystod y gwyliau)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (£16,824 - £17,106 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259) e-bost: iwan.jones@godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru .Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MAWRTH, 10 GORFFENNAF, 2024.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swyddi yma yn yr wythnos yn cychwyn 15 o Gorffennaf 2024
(This is an advertisement for the post of a Level 2 Learning Support Assistant at Ysgol Godre'r Berwyn, Bala for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.
Manylion Person
MANYLION PERSON
Teitl y Swydd Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2
Adran Addysg
Lleoliad Ysgol Godre'r Berwyn
Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
Cynorthwyo'r athro/athrawes i reoli disgyblion o fewn y dosbarth (tu mewn a thu allan) a thu draw.
GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD
CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU
• NVQ Lefel 2 neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol.
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd da.
GWYBODAETH A SGILIAU
• Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi dysgu
• Y defnydd o offer/adnoddau perthynol
• Gwybodaeth o faes pynciol/ technegol arbennig .
• Gwybodaeth o bolisïau / codau ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
• Y gallu i adnabod anghenion hyfforddi a datblygu'r hunan ac i gydweithredu gyda'r modd i fynd i'r afael â'r rhain.
• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
• Gwybodaeth berthnasol o gymorth cyntaf
PROFIAD
• Profiad o weithio gyda phlant o'r oed perthnasol.
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
• Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at waith.
• Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg
ANGHENION Y BUASAI'N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD
• Profiad o gefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion lles a chynhwysiad
Swydd Ddisgrifiad
YSGOL GODRE'R BERWYN
DISGRIFIAD SWYDD
SWYDD: CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU (LEFEL 2)
AMSER: 30 Awr
YSTOD CYFLOG: GS3 - 5 - 6
YN ATEBOL I: Y Pennaeth / Uwch Dim Rheoli
PWRPAS SWYDD
Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
Cynorthwyo'r athro/athrawes i reoli disgyblion o fewn y dosbarth (tu mewn a thu allan) a thu draw.
• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
• Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.
• Cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion
• Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol.
• Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
• Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
• Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
• Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunan-hyder.
• Darparu adborth effeithlon i'r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.
Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes
• Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
• Cysylltu â'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
• Cysylltu â'r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
• Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
• Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
• Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
• Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
• Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytøn.
• Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
• Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
• Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
• Cefnogi'r defnydd o TGaCh yn nysgu'r disgyblion a'u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
• Paratoi, cynnal a defnyddio'r offer a'r adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r rhaglenni addysgu a'r gweithgareddau dysgu cytøn.
• Cysylltu'n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro.
• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
Cefnogaeth i'r Ysgol
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
• Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi