MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Medi, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras

Parc Borras

Wrecsam

LL12 7TH

Ffon: 01978 346890

ebost: mailbox@borraspark-pri.wrexham.sch.uk

Pennaeth: Mr Rob Nicholson

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 1:1

Cymorth Dysgu Prif Ffrwd

Llawn amser, 30 awr yr wythnos (8:45am i 3:15pm)

38 wythnos y flwyddyn

G04 £15,900 - £16,166 y flwyddyn

Dros dro gyda'r bwriad o'i adnewyddu'n flynyddol yn dibynnu ar yr angen.

Yn ystod y tymor yn unig heb unrhyw wyliau yn ystod y tymor.

I ddechrau cyn gynted ag sy'n bosibl o fis Medi 2024, yn dilyn gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae llywodraethwyr yr ysgol gynradd prif ffrwd fawr, modern, a bywiog hon yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 i weithio dan gyfarwyddyd/arweiniad staff addysgu/uwch ac i gefnogi datblygiad plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol o ran ei ofal personol, hunan-ofal, cyfathrebu ac ymgysylltiad a datblygiad addysgol. Bydd y rôl hanfodol hon yn galluogi mynediad at ddysgu mewn lleoliad prif ffrwd ar gyfer disgybl hyfryd â Syndrom Down trwy ddarparu rhaglenni penodol a gwneud addasiadau angenrheidiol i'r cwricwlwm.

Gallai'r gwaith gael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan i'r brif ardal addysgu fel y mae'n briodol. Bydd y disgybl ym Mlwyddyn 5 ym mis Medi.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa'r Ysgol o 3 Medi 2024.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau trwy'r post neu yn uniongyrchol i'r Pennaeth i'r cyfeiriad uchod.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr lenwi Ffurflen Gais Cyngor Sir Wrecsam, ac mae'n rhaid cynnwys llythyr ategol yn amlinellu eu haddasrwydd ar gyfer y swydd hon. Ni ddylai llythyrau ategol fod yn fwy na 2 ochr A4, a dylent gyfeirio'n benodol at y Manylion am yr Unigolyn.

Neu, gallwch anfon eich cais trwy e-bost at: mailbox@borraspark-pri.wrexham.sch.uk (Rhowch '1:1 Teaching Assistant Application' fel teitl i'ch neges)

Sylwer, er yr hoffem gydnabod pob cais unigol, nid yw'n ymarferol i ni wneud hynny. Felly, byddwn yn cysylltu â'r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig ac os na fyddwch yn clywed gennym, rydych wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn a dymunwn yn dda i chi gydag unrhyw geisiadau yn y dyfodol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 9 Medi 2024 - 1:00pm

Cyfweliadau:Dyddiad i'w gadarnhau yr wythnos sy'n cychwyn 16 Medi