MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed Comprehensive,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,183 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Safle - Ysgol Gyfun Pencoed

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £25,183 y flwyddyn

Swyddog Safle - Ysgol Gyfun Pencoed
Disgrifiad swydd
37 awr yr wythnos

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Safle dynamig a brwdfrydig sy'n angerddol am gynnal amgylchedd dysgu cefnogol i greu profiadau cadarnhaol i ddisgyblion. Rydym yn ceisio recriwtio rhywun sy’n gallu cyfrannu'n llwyddiannus at yr ethos ysgol gyfan Dysgu, Tyfu, Ffynnu ac i fynd ati'n effeithiol i gefnogi'r holl staff yn yr ysgol i ddatblygu rhagoriaeth mewn dysgu, addysgu a llesiant.

Rydym yn gwerthfawrogi pob aelod o gymuned yr ysgol ac yn ddiwyro o ran meithrin yn ein disgyblion awydd i fod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain. Mae gennym y disgwyliadau uchaf o'n disgyblion a'n staff. Rydym yn falch iawn o'n disgyblion a'r gymuned ddysgu gefnogol yr ydym wedi'i chreu. Er bod cymuned yr ysgol yn fwy na ffabrig ei hadeiladau, rydym yn gwybod fel ysgol sut y gall rheoli a gwella amgylchedd a chyfleusterau'r ysgol, gan gynnwys tiroedd gael effaith gadarnhaol ar agweddau dysgwyr.

Mae'r Corff Llywodraethu ym Mhencoed yn ceisio penodi Swyddog Safle gweithgar, dibynadwy, brwdfrydig a llawn cymhelliant. Gan gefnogi'r Rheolwr Gweithrediadau, Rheolwr Busnes yr Ysgol a'r Pennaeth, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch safle Ysgol Gyfun Pencoed. Cynorthwyo â'r gwaith o gynnal a chadw'r safle, peiriannau, offer a chyfarpar i sicrhau amgylchedd gwaith diogel.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 25 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 09 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 13 Mehefin 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person