MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £21,895-£22,631 per annum
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch-swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Pencoed

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £21,895-£22,631 per annum

30 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Pencoed yn chwilio am Uwch-swyddog Cymorth Dysgu brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm ymroddedig. Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am gefnogi dysgu plant, sy'n ymrwymedig i ymarfer cynhwysol, ac sy'n gallu arwain ac ysbrydoli eraill. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau -darpariaeth o ansawdd uchel ar draws yr ysgol, gan weithio'n agos gyda staff i sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Os ydych yn rhagweithiol, yn feithringar, ac yn barod i gael effaith ystyrlon mewn cymuned ysgol fywiog a blaengar, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 20 Chwefror 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 24 Chwefror 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 03 Mawrth 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person