MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £12.85 per hour
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 18 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol Rhyddhad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £12.85 per hour
Yn ôl yr angenYn ystod tymor yr ysgol
Ysgol Gynradd Pencoed
Ysgol Gynradd Bracla
Ysgol Gynradd Caerau
YGG Cynwydd Sant
Ysgol Gynradd Cwm Ogwr
Ysgol Gynradd Blaengarw
Heronsbridge
Ysgol Gynradd Litchard
Brynteg Uchaf
Brynteg Is
Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig
Ysgol Gynradd Newton
Gan ddarparu prydau i ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig i 56 o ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol, mae gan y Gwasanaethau Arlwyo amrywiaeth o gyfleoedd i chi weithio fel Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol ar draws eu gwasanaeth a hoffent glywed gennych.
Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag yn y lleoliadau isod:
(rhowch y lleoliadau) Insert locations ensuring titles are translated to Welsh
I.e.
Ysgol gynradd coety
Mae'r rôl yn cynnwys cynorthwyo wrth baratoi, cyflwyno a gweini prydau ysgol, wrth ddarparu amgylchedd diogel, glân i ddisgyblion a staff. Bydd yn ofynnol i chi osod byrddau a chadeiriau bwyta ac, mewn rhai ysgolion, gall fod yn ofynnol gweithredu terfynell sgrin gyffwrdd - rhoddir hyfforddiant wrth ddechrau.
Mae cwmpasu ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn un o ofynion y rôl yn ogystal â chael Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Dau; darperir hyfforddiant os bydd angen i'ch helpu i gyflawni hyn.
Bydd yr oriau gwaith yn cael eu cadarnhau ar ôl penodi ond byddant rhwng 10.00am a 2.30pm, i gefnogi'r cyfnodau egwyl canol bore ac amser cinio, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, ffoniwch Ceri Acaster ar 01656 815964 a fydd yn croesawu eich cais.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Chwefror 2026
Dyddiad y Cyfweliad: W/C 23 Chwefror 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person