MANYLION
  • Lleoliad: Cwmfelin Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £2,824 per annum
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Cwmfelin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £2,824 per annum

5 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Dros dro - 1 flwyddyn

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin am benodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng 12pm a 1pm, bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 18 Chwefror 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 25 Chwefror 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 06 Mawrth 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person