MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Abercerdin Primary,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,356 - £24,141 per annum
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Uwch Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Abercerdin
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £23,356 - £24,141 per annum
32 awr yr wythnos - Yn ystod tymor yr ysgolMae Ysgol Gynradd Abercerdin yn chwilio am Uwch-swyddog Cymorth Dysgu brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm ymroddedig. Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am gefnogi dysgu plant, sy'n ymrwymedig i ymarfer cynhwysol, ac sy'n gallu arwain ac ysbrydoli eraill.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o ddatblygu plant yn ystod y Blynyddoedd Cynnar a gallu amlwg i gynllunio, trefnu a gwerthuso cyfleoedd dysgu effeithiol iawn ar draws dysgu Sylfaenol mewn amgylcheddau dan do ac yn yr awyr agored. Bydd yn gwybod sut i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau asesu yn effeithiol fel rhan annatod o'r broses hon. Mae profiad amlwg ar draws y cyfnod cynradd hefyd yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen iddynt ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell dosbarth ac ymrwymiad cryf i gynnydd disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y gallu i ffurfio perthnasoedd gofalgar ac ymddiriedgar gyda phlant a'u teuluoedd.
Gallwn gynnig cymuned ysgol ofalgar i'r ymgeisydd llwyddiannus. Mae gennym staff a thîm arweinyddiaeth profiadol, cydweithredol gydag ymrwymiad cryf i lesiant disgyblion a staff. Rydym yn dîm angerddol, gyda chyfoeth o arbenigedd sy'n ein galluogi i gynnal safonau uchel ar draws pob maes o'r cwricwlwm.
Os ydych yn rhagweithiol, yn feithringar, ac yn barod i gael effaith ystyrlon mewn cymuned ysgol fywiog a blaengar, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 08 Ebrill 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: W/d 13 Ebrill 2026
Dyddiad y Cyfweliad: W/d 20 Ebrill 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person