MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pencoed Primary,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Leadership Scale L(14) - L(18) £72,579 - £80,080 per annum
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Pencoed
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Leadership Scale L(14) - L(18) £72,579 - £80,080 per annum
32.5 awr yr wythnosMae Ysgol Gynradd Pencoed yn ysgol hapus a chyfeillgar, ystod oedran (3-11).
Mae Llywodraethwyr yr ysgol hapus, lwyddiannus hon yn awyddus i benodi athro/athrawes uchelgeisiol, llawn brwdfrydedd ac arloesol a chanddo/chanddi sgiliau rheoli a rhyngbersonol gwych i gynorthwyo'r Pennaeth wrth arwain tîm o staff addysgu a chymorth ymroddedig.
Dylech fod yn:
- Ymarferydd rhagorol sy'n ymrwymedig i godi cyrhaeddiad a gwella'r ysgol;
- Rhywun sy'n gwerthfawrogi partneriaethau â theuluoedd ac sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ddatblygu fel Ysgol sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned
- Yn frwd dros addysg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a'r ysgogiad i arwain datblygiadau cwricwlwm sy'n galluogi i'r holl blant lwyddo yn eu dysgu; Unigolyn sy'n meddu ar y sgiliau rhyngbersonol a threfnu angenrheidiol i symbylu ac ysgogi mentrau drwy ddefnyddio sgiliau'r tîm mawr o staff; Unigolyn sydd â'r bersonoliaeth, yr ysgogiad a'r brwdfrydedd i gynorthwyo'r pennaeth a'r llywodraethwyr wrth arwain a rheoli'r ysgol.
Byddai ein plant yn hoffi:
- Rhywun sy'n gwrando ac yn gwneud eu dysgu yn hwyl.
Yn yr ysgol rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwdfrydig am brofiad addysgol o ansawdd.
Croesewir ymweliadau âr ysgol. Gall darpar ymgeiswyr gysylltu âr ysgol er mwyn trefnu ymweliad.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 7 Mai 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 11 Mai 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 19 a 20 Mai 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person