MANYLION
  • Lleoliad: Tondu Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £26,403 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch-swyddog Safle - Ysgol Gynradd Tondu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £26,403 y flwyddyn

37 awr yr wythnos

Mae Ysgol Gynradd Tondu yn ceisio penodi Uwch-swyddog Eiddo llawn cymhelliant, dibynadwy a rhagweithiol i ymuno â'n tîm ymroddedig.

Mae hon yn rôl allweddol yn ein cymuned ysgol, sy'n gyfrifol am sicrhau bod ein hadeiladau a'n tiroedd ar draws dau safle ysgol yn ddiogel, yn cael eu cynnal a'u cadw yn dda ac yn groesawgar i'r holl ddisgyblion, staff ac ymwelwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio rheolaeth o ddydd i ddydd y ddau safle, gan gydlynu'r gwaith cynnal a chadw, cydymffurfiaeth iechyd a diogelwch, diogelwch ac ymweliadau contractwyr i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal bob amser.

Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn:

Yn ymfalchïo mewn cynnal safonau uchel ar draws amgylchedd ysgol mawr ac amrywiol.
Yn meddu ar brofiad o gynnal a chadw safleoedd, rheoli safleoedd a gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
Yn gallu gweithio'n annibynnol, blaenoriaethu llwythi gwaith ac ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd annisgwyl.
Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol.
Yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig y cyfle i weithio mewn cymuned ysgol gefnogol a gofalgar lle mae pob aelod o staff yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu ein plant i ffynnu.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person