MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,459 - £30,722
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 (AAA) - Ysgol Bro Dinefwr

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £27,459 - £30,722

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 3603

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

6

Math o gontract:

Dros Dro/Secondiad - Yn Ystod y Tymor yn Unig

Dyddiad gorffen y contract:

31 Awst 2027

Lleoliad:

Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Gradd E +4%

Cyflog:

£27,459 - £30,722

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£14.23 - £15.92

Oriau Contract:

30

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 brwdfrydig, gofalgar ac ymroddedig i ymuno â'n tîm cefnogol o fewn Uned Arbenigol Canolfan Cothi.

Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i gefnogi dysgwyr awtistig a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni eu potensial llawn mewn amgylchedd meithringar, strwythuredig a chynhwysol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag athrawon, rhieni, asiantaethau allanol a gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu cymorth o safon uchel sy'n hyrwyddo annibyniaeth, cyfathrebu, llesiant a llwyddiant academaidd.
Rydym yn Chwilio am rywun sydd yn:
  • Meddu ar brofiad o weithio gyda phlant neu bobl ifanc ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD) a/neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
  • Yn dangos amynedd, empathi a gwydnwch.
  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm rhagorol.
  • Yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol a phroffesiynol gyda disgyblion, cydweithwyr a theuluoedd.
  • Yn gallu addasu i anghenion unigol dysgwyr.
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o gyfrifoldebau diogelu.
  • Yn ymrwymedig i addysg gynhwysol a disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr.
Gallwn Gynnig:
  • Amgylchedd gwaith croesawgar a chefnogol.
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant arbenigol ASD.
  • Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.
  • Mynediad at gymorth llesiant a chyfleoedd dysgu proffesiynol.
  • Swydd werthfawr ac amrywiol o fewn darpariaeth arbenigol uchel ei pharch.

Bydd angen gwybodaeth sylfaenol o'r Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth ar ôl penodi i'ch helpu i gyrraedd y lefel hon.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Deborah.lloyd@brodinefwr.org.uk - 01558 824800

Disgrifiad Swydd:

Teaching Assistant Level 2 - ALN (September 2026)English Medium.pdf - 342KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

3 Medi 2026

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 20/08/2026, 23:55

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.

Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.