MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,949 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Awst, 2026 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £25,949 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol)
Ynglŷn â'r swydd wagCyfeirnod y Swydd Wag: 3233
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
2
Math o gontract:
Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig
Lleoliad:
Rhydaman
Gradd:
Gradd A +4%
Cyflog:
£25,949 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£13.45 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol)
Oriau Contract:
10 Awr yr Wythnos
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae'r Gwasanaeth Glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae'r tîm yn gyfrifol am gynnal safonau glendid a hylendid uchel ledled ysgolion y Sir er mwyn sicrhau y gall pobl fyw a gweithio mewn amgylchedd glân a diogel. Byddai'r rôl yn cynnwys glanhau yn ystod y tymor ynghyd â glanhau ychwanegol yn ystod y gwyliau o hyd at 10 diwrnod. Bydd yr oriau'n dibynnu ar y contract y mae pob ysgol wedi ymrwymo iddo.
Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol lygad craff am fanylion ac yn ymfalchïo mewn sicrhau bod pob ardal yn lân ac yn daclus. Mae dyletswyddau'n cynnwys dwsto, ysgubo, hwfro, mopio a gwagio biniau gwastraff yn ogystal ag ail-lenwi eitemau traul a glanhau'n drylwyr yn ôl yr angen. Byddwch yn gyfrifol am ddefnyddio offer glanhau, peiriannau a chemegau, gan ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch.
Bydd hefyd angen i chi:
- Bod ag agwedd gadarnhaol a'r parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.
- Bod ag hyblygrwydd a'r parodrwydd i gynorthwyo gyda gofynion glanhau eraill.
Am drafodaeth anffurfiol am ein swydd wag, cysylltwch â Heidi Hardy ar 07920286909.
Disgrifiad Swydd:
Cleaner - Schools.pdf - 168KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 10/08/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.
Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.