MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £31,537-£32,597 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch-swyddog Gweinyddol - Ysgol Bryn Castell

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £31,537-£32,597 y flwyddyn

37awr yr wythnos

Mae Llywodraethwyr Ysgol Arbennig Bryn Castell yn dymuno penodi Uwch-swyddog Gweinyddol brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio o fewn y Tîm Gweinyddol ochr yn ochr â staff yr ysgol, i gynorthwyo disgyblion ag Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol ac Awtistiaeth ac Anghenion Dysgu Ychwanegol cysylltiedig yn yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymedig i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a bydd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y tîm prysur hwn i ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau gweinyddol, clercol ac ariannol, gynnwys Adnoddau Dynol ac arholiadau, a chynorthwyo â'r gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau cymorth.

Dylai ymgeiswyr fod yn gymwysedig i NVQ Lefel 3 neu gyfwerth gyda phrofiad o weithredu a goruchwylio systemau gweinyddol ac ariannol, gyda gwybodaeth a dealltwriaeth lawn o godau ymarfer perthnasol, polisïau ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth.

Mae'r swydd hon yn swydd amser llawn yn yr ysgol.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 26 Awst 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 01 Medi 2026

Dyddiad y Cyfweliad: wythnos yn dechrau 14 Medi 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person