- Educ8
- Caerphilly
- Caerffili
- CF82 7EH
Educ8 yw un o'r darparwyr hyfforddiant dysgu seiliedig ar waith mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Rydym yn angerddol am sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnynt i ysgogi a chyflymu eu gyrfaoedd.
Drwy Brentisiaeth gydag Educ8 cewch gyfle i ennill cyflog a dysgu, gan ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol wrth gael eich talu. Mae prentisiaethau ar gael o Lefel Sylfaen yr holl ffordd hyd at Brentisiaethau Uwch, sy'n golygu bod Prentisiaeth i chi, p'un a ydych newydd adael yr ysgol, heb gael y canlyniadau yr oeddech eu heisiau neu os oes gennych Radd prifysgol i'ch enw!
Mae ein holl Brentisiaethau wedi'u hariannu'n llawn sy'n golygu na fyddwch allan o boced, neu’n ddyledus o unrhyw ddyled ar ôl cwblhau eich cymhwyster, cewch eich cefnogi drwy gydol eich Prentisiaeth gan eich Hyfforddwr eich hun a fydd yn rhoi'r cymorth un i un sydd ei angen arnoch i lwyddo.
Mae Educ8 wedi'i leoli yn ardal De Cymru, p'un a ydych yn byw yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe neu rywle rhwng y ddau fe allwn eich helpu i gyflawni eich gyrfa ddelfrydol.
Rydym yn darparu'r Prentisiaethau canlynol:
A hyfforddiant yn y sector Trin Gwallt, Barbwr, Ewinedd a Harddwch