- Coleg Gwyr Abertawe
- Abertawe
- Swansea
- SA2 9EB
Rydym yn cynnig bron 40 o bynciau Safon Uwch a 40 o bynciau galwedigaethol ar amrywiaeth o lefelau hyd at, ac yn cynnwys, Addysg Uwch, sy’n cyd-fynd â gwybodaeth a lefelau sgiliau presennol ein myfyrwyr. Yn ogystal â hyn, mae gennym un o’r enwau gorau am ddysgu ac addysgu o safon uchel, nid yn unig yn Abertawe ond ar draws Cymru gyfan.
Mae gennym dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser ar draws Abertawe a’r siroedd cyfagos. Rydym yn gweithredu o leoliadau ar draws Abertawe gan gynnwys campysau yn Nhycoch, Sgeti, Gorseinon, Uplands a Fforestfach.
Yn ddiweddar rydym wedi agor Canolfan Brifysgol bwrpasol ar Gampws Tycoch. Fe’i bwriedir yn arbennig ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch ac mae’n cynnwys chwe ystafell ddosbarth newydd, llyfrgell ac ystafell gyffredin.
Rydym yn cynnig Graddau, Graddau Sylfaen, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC), Diplomas Cenedlaethol Uwch (HND), Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU) a chymwysterau proffesiynol – ac mae llawer o’n cyrsiau wedi’u dilysu gan y prif sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Bydd ein Hysgol Fusnes Plas Sgeti newydd yn agor ei drysau yn ffurfiol ym mis Medi a bydd yn gartref i amrywiaeth eang o ddarpariaeth addysg broffesiynol a gweithredol. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau busnes a rheolaeth pwrpasol ac achrededig h.y. cyfrifeg, arweinyddiaeth, digidol ac iechyd a diogelwch, cymwysterau AU, prentisiaethau a phrentisiaethau gradd – wedi’u haddysgu ar gyfer busnesau gan arbenigwyr diwydiant Coleg Gŵyr Abertawe.
Yn 2021, fe wnaethom gyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair gwobr AB TES yn y categorïau canlynol: Rhaglen Brentisiaeth y Flwyddyn; Cymorth i Ddysgwyr; ac Arwr WorldSkills. Mae un o’n darlithwyr Safon Uwch ardderchog hefyd yn y gystadleuaeth i ennill teitl Darlithydd AB y Flwyddyn yn nigwyddiad mawreddog Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson.