EWC

EWC
Independent Regulator
EIN CYFEIRIADAU:
  • EWC
  • Cardiff
  • Caerdydd
  • CF24 0AB
Amdanom Ni

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw'r corff rheoleiddio annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn cwmpasu athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith.

Yr hyn a wnawn

Ein prif swyddogaethau yw:

  • sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg;
  • cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg;
  • ymchwilio i, a gwrando ar, honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu droseddau perthnasol a allai fwrw amheuaeth ar briodoldeb ymarferydd i ymarfer;
  • Achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon;
  • darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill ynghylch materion sy'n gysylltiedig â'r gweithlu addysg ac addysgu a dysgu;
  • monitro Sefydlu a gwrando ar apeliadau Sefydlu (lle y bo'n berthnasol) ar gyfer athrawon;
  • hybu gyrfaoedd yn y gweithlu addysg; ac
  • ymgymryd â gwaith penodol mewn perthynas ag addysgu a dysgu ar gais Llywodraeth Cymru.

Cofrestru

Mae ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yn cynnwys dros 80,000 o ymarferwyr ar draws saith categori cofrestru. Mae angen i ymarferwyr gofrestru ar gyfer mwy nag un categori weithiau, yn dibynnu ar y gwaith maent yn ei wneud neu’n bwriadu ei wneud.

Os oes angen i chi gofrestru gyda ni, gallwch gofrestru ar-lein.

Priodoldeb i Ymarfer

Mae ein staff ac aelodau panel priodoldeb i ymarfer yn gyfrifol am waith rheoleiddio CGA. Mae hyn yn cynnwys disgyblu, addasrwydd am gofrestru ac apeliadau sefydlu.

Pasbort Dysgu Proffesiynol

Mae gan bob un o’n cofrestreion fynediad i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), sef e-bortffolio a dyluniwyd i’w cynorthwyo wrth wella eu hymarfer trwy gofnodi, myfyrio ar a rhannu eu dysgu.

Gellir dod o hyd i safonau proffesiynol pob grŵp cofrestru CGA o fewn y PDP. Mae’r offerynnau rhyngweithiol sydd o fewn y PDP yn galluogi cofrestreion i fapio tystiolaeth a hunanasesu eu cynnydd yng nghyd-destun eu safonau proffesiynol.

Os ydych am roi cychwyn ar eich PDP, darllenwch ein canllaw byr I’ch helpu i sefydlu eich cyfrif ar-lein.

Digwyddiadau dysgu proffesiynol

Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau dysgu proffesiynol ar gyfer ein cofrestreion trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys ein darlith flynyddol boblogaidd, sef Siarad yn broffesiynol. Yn y gorffennol mae’n digwyddiadau wedi cynnwys siaradwyr megis Yr Athro Andy Hargreaves, Yr Athro Pak Tee Ng a Dr Carol Campbell.

Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Mae’r Marc Ansawdd yn adnodd unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill Marc Ansawdd am waith ieuenctid. Mae’n cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella mewn darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwaith ieuenctid, gan ddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.

Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Marc Ansawdd, cwblhewch ein ffurflen ar lein.

Dod i adnabod ni a’n gwaith

Rydym yn cyflwyno hyfforddiant a gweithdai ledled Cymru i’n holl grwpiau cofrestredig yn ogystal â rhanddeiliaid megis llywodraethwyr, sefydliadau hyfforddi a chonsortia addysg rhanbarthol. Rydym yn gwneud hyn yn bersonol neu’n rhithwir.

Mae ein harbenigedd yn cwmpasu amrywiaeth o themâu sy’n gysylltiedig â’n gwaith, megis:

  • Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
  • defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol
  • cyfrifoldebau a moeseg proffesiynol
  • Pasbort Dysgu Proffesiynol

I drefnu cyflwyniad i’ch sefydliad chi, cwblhewch ein ffurflen ar-lein

Darganfod mwy amdanom ni yn www.cga.cymru