Amdanom Ni
Mae Coleg Penybont yn Goleg Addysg Bellach (AB) sy'n cefnogi dros 6,000 o fyfyrwyr ac yn cyflogi dros 600 o aelodau o staff ar draws ei bedwar campws ym Mhenybont, Pencoed, Heol y Frenhines a Maesteg.
Mae dros 850 o fyfyrwyr yn dewis cwblhau eu cwrs addysg uwch gyda ni bob blwyddyn. Mae'r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn bartner cydweithredol Prifysgol De Cymru.
O ddechreuadau bach ym 1923, mae Coleg Penybont bellach wedi tyfu i fod yn goleg cynhwysol ac amrywiol. Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau, o Fynediad hyd at lefel Gradd, mewn dros 20 o feysydd galwedigaethol (gan gynnwys Lefel A).
Addysg Bellach
Further Education
Addysg Uwch
Higher Education
Prentisiaeth
Apprenticeship
Dysgu Seiliedig ar Waith
Work-Based Learning