Beth yw’r safonau proffesiynol?
Mae safonau proffesiynol yn disgrifio’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau sy’n dangos ymarfer rhagorol ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol.
Mae’r safonau proffesiynol yn ffurfio fframwaith dyheadol sy’n eich grymuso i fod yr addysgwr gorau posibl.
Maen nhw’n rhan hollbwysig o gefnogi’r holl ymarferwyr yn ein sector wrth iddynt ymwneud â dysgu a datblygiad proffesiynol.
Mae’r safonau hyn, a luniwyd ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, yn ffrwyth ymdrech ar y cyd gan y gweithlu, ar ran y gweithlu. Maen nhw’n ymgorffori arbenigedd a gweledigaeth gyffredin gweithwyr proffesiynol fel chi, sy’n rhannu ymrwymiad i gael yr effaith fwyaf posibl ar ddysgwyr.
Rhoddir isod ddolenni i safonau proffesiynol sydd wedi’u teilwra i’ch rôl benodol; ar gyfer athrawon addysg bellach, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, athrawon sy’n cyflwyno addysg oedolion yn y gymuned, a staff cymorth ac arweinwyr mewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Adnoddau allweddol yw’r rhain i gyflawni dealltwriaeth ddyfnach o’ch ymarfer, a hybu eich twf fel gweithiwr proffesiynol.
- Gosod disgwyliadau clir ar gyfer sut dylech chi a’ch cydweithwyr weithio.
- Myfyrio ar eich ymarfer – yn unigol ac fel rhan o dîm, a helpu i ddiffinio llwyddiant fel addysgwr.
- Amlygu meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt ar gyfer eich datblygiad proffesiynol a’ch dysgu parhaus eich hun.
- Diffinio’r llwybr tuag at gamu ymlaen yn eich gyrfa, gan roi trywydd clir i chi i wella’ch gyrfa.
Mae croesawu’r safonau hyn yn golygu gosod disgwyliadau clir ar gyfer sut rydym yn gweithio yn y sector hwn, a sut rydym yn gwella.
Maen nhw’n eich galluogi i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun, yn unigol neu ar y cyd, gan sicrhau dealltwriaeth o sut beth yw llwyddiant ar gyfer addysgwyr. At hynny, maen nhw’n eich grymuso i amlygu meysydd lle y gall dysgu a datblygiad proffesiynol ychwanegol wthio’ch ffiniau.
Fe welwch eich safonau proffesiynol yn eich PDP hefyd, a gall unrhyw eitem rydych wedi’i chreu neu ei hychwanegu at eich PDP gael ei chysylltu â nhw.
Mae’r PDP hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad am ddim at EBSCO, sef y gronfa ddata ymchwil testun llawn fwyaf yn y byd ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol sy’n cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd.
Darllenwch fwy am sut gallwch ddefnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol i wella’ch ymarfer.