Latest Professional Learning

Gyrfa Cymru

Gyrfa Cymru

Gyrfa Cymru yw'r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd dwyieithog i bob oedran ar gyfer Cymru. Mae ein Cynghorwyr Gyrfa â chymwysterau proffesiynol yn helpu unigolion i ddod yn fwy effeithiol wrth reoli a chynllunio datblygiad eu gyrfa yn llwyddiannus. Mae ein Tîm Cwricwlwm yn darparu ymgynghoriaeth, adnoddau a dysgu proffesiynol a'r rhai sy'n cefnogi pobl ifanc â Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith.

BE.Xcellence

BE.Xcellence

Nod BE.Xcellence yw codi cynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn Addysg. Rydym yn darparu rhwydwaith cynorthwywyr addysgu pwrpasol o'r enw, (TAN) i gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol cynorthwywyr addysgu Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Cymorth Allgymorth Ecsema

Cymorth Allgymorth Ecsema

New Directions Addysg

New Directions Addysg

Mae New Directions yn arwain y farchnad o ran darparu hyfforddiant i'r sector addysg. Gyda dros ddau ddegawd o brofiad, rydym yn deall anghenion hyfforddi'r gymuned addysg ac wedi datblygu portffolio helaeth o gyrsiau.

Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol

Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol

Mae DARPL yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad byw a phroffesiynol drwy hwb dysgu ac adnoddau proffesiynol sydd â safbwynt Cymreig o ran codi ymwybyddiaeth amlddisgyblaethol o hiliaeth, wrth i ni weithio gyda'n gilydd yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy

Ni yw Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy ac rydym yma ar dy gyfer, yn ysgwydd i bwyso arni, yn glust i wrando  pwy bynnag wyt ac o ble bynnag yr wyt yn dod. Pam na ei i fan diogel yn agos atat lle medri ymlacio a chael hwyl. Os wyt yn edrych am rywbeth i'w wneud, beth am ddod draw i un o'n canolfannau ieuenctid llawn-amser neu gymryd rhan yn un o'n prosiectau? Bydd ein staff croesawgar yn hapus i dy helpu, cefnogi a'ch cynghori a thrin dy anghenion unigol.

Technocamps

Technocamps

Rydym yn gweithio gydag ysgolion uwchradd trwy ein rhaglen Cyfoethogi STEM ac ysgolion cynradd trwy ein rhaglen Playground Computing. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i athrawon i'w paratoi at yr heriau o ddarparu amgylchedd technegol a deinamig. Mae ein hymrwymiad i addysg gyfrifiadurol hefyd yn ymestyn y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol. Rydym yn darparu cyfleoedd uwchsgilio digidol i bobl mewn cyflogaeth, ynghyd â chyfleoedd amrywiol ar gyfer dysgu gydol oes.

Taith

Taith

Rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu yw Taith, sy'n creu cyfleoedd i deithio, gwirfoddoli, dysgu a chael profiadau all newid bywydau. Mae cyfleoedd ariannu ar gael i ddysgwyr a staff o sectorau Ysgolion, Addysg Ieuenctid, AB a VET, Addysg Oedolion ac Addysg Uwch.

Cwmni Urdd Gobaith Cymru

Cwmni Urdd Gobaith Cymru

Rydym yn darparu Prentisiaethau Chwaraeon, Awyr Agored, Gwaith Ieuenctid a Gofal Plant, yn ogystal â darpariaeth sgiliau hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid i ddatblygu darpariaeth o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg i bobl yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw i feithrin gweithlu hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl i ddysgu, i ddatblygu'n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.