Latest Professional Learning

Grŵp Colegau NPTC
Mae Grŵp Colegau NPTC yn Goleg Addysg Bellach ffyniannus sydd â naw campws ledled Cymru. Rydym yn cyflwyno cyrsiau ym mhob maes y gellir ei ddychmygu ac yn falch ein bod wedi datblygu nifer o raglenni a chyrsiau hyfforddiant proffesiynol a fydd yn helpu gyda dilyniant gyrfa. Mae ein staff ymroddedig a phrofiadol yn gweithio mewn partneriaeth, gan gydweithio ag ystod o Sefydliadau Addysg Uwch a darparwyr addysg o fri, nid yn unig yng Nghymru ac ar draws y DU ond ar lefel ryngwladol.

Coleg Cambria
Mae Coleg Cambria yn un o'r colegau mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae ganddo dros 5,500 o fyfyrwyr amser llawn ac 20,000 o ddysgwyr rhan-amser wedi'u lleoli ar bum safle. Mae'r Coleg yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau yn ogystal â darpariaeth a hyfforddiant yn y gwaith fel prentisiaethau a hyfforddeiaethau.

Addysg Oedolion Cymru
Ni yw darparwr cenedlaethol dysgu oedolion yn y gymuned i Gymru, sy'n ymroddedig i ddysgu gydol oes ac ehangu cyfranogiad. Rydym yn dod â dysgu o ansawdd ac uwchsgilio i gymunedau, gan sicrhau ein bod yn gwneud ein cyrsiau yn hygyrch ac yn hyblyg i ddiwallu anghenion a doniau poblogaeth amrywiol o oedolion. Rydym yn gweithio ar y cyd â llawer o sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid eraill i ddarparu cyfleoedd dysgu anffurfiol a ffurfiol sy'n newid bywydau.

Coleg Sir Gar
Mae Coleg Sir Gâr yn frwdfrydig iawn ynghylch dysgu a rhoddir y rheiny sy'n astudio gyda ni yn ganolog i bob peth a wnawn. Rydym yn sicrhau bod ein safonau addysgu a dysgu yn uchel a bod canlyniadau myfyrwyr yn cyfuno â phrofiad dysgu pleserus. Nod y Coleg yw ysbrydoli dysgwyr, cynyddu eu sgiliau a chreu cyfleoedd i sicrhau bod pob unigolyn yn cyflawni ei botensial. Mae'r Coleg yn rhan o bartneriaeth sector deuol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Coleg Gwyr Abertawe
Cenhadaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw ysbrydoli a helpu ein dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn trwy ddarparu addysg a hyfforddiant o'r safon uchaf. Mae'r Coleg yn sefydliad addysg bellach a grëwyd yn 2010 yn dilyn uno Coleg Abertawe a Choleg Gorseinon. Diolch i'n staff hynod ymroddedig a thalentog, gallwn ddarparu cyfleoedd dysgu a hyfforddi rhagorol i bobl ifanc, oedolion a chyflogwyr ar draws de-orllewin Cymru.

Sgiliau a Hyfforddiant Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Mae Sgiliau a Hyfforddiant yn rhan o gyfarwyddiaeth Gwasanaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae Sgiliau a Hyfforddiant wedi darparu dysgu a hyfforddiant a ariennir gan y llywodraeth ers dros 40 mlynedd, gan gwmpasu cyfleoedd dysgu yn y gwaith a hyfforddiant masnachol pwrpasol i weddu i anghenion trigolion lleol, cyflogwyr a'u gweithwyr.

Coleg Caerdydd a'r Fro
Coleg Caerdydd a'r Fro yw un o'r colegau mwyaf yn y DU. Mae gennym fwy na 30,000 o ddysgwyr bob blwyddyn ar draws cyrsiau coleg, cymwysterau prifysgol a rhaglenni prentisiaeth llawn amser a rhan amser. Rydym yn datblygu pobl fedrus a chyflogadwy - gyda rhai o'r cyfraddau llwyddo gorau i fyfyrwyr yn y sector a ffocws ar brofiadau sy'n sicrhau bod ein dysgwyr yn amlygu eu hunain ac yn gwneud cynnydd. Ysbrydoledig. Cynhwysol. Dylanwadol. Ni yw Coleg Caerdydd a'r Fro.

EWC
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw'r corff rheoleiddio annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn cwmpasu athrawon a staff cymorth mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig ac ymarferwyr sy'n gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ryn ni'n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg. Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy'n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.

Portal Training
Mae Portal yn ddarparwr hyfforddiant dwyieithog deinamig ac arloesol, sy'n cefnogi sefydliadau i ddatblygu gallu arwain a rheoli eu gweithlu. Gan ddarparu diplomâu ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar lefelau 3, 4, 5 a 7, mae gennym brofiad o gefnogi datblygiad proffesiynol ystod eang o rolau, o reolwyr newydd i uwch arweinwyr profiadol. Yn ogystal â'r uchod rydym hefyd yn darparu Prentisiaethau mewn CCPLD ac Arweinyddiaeth Gweithgaredd.

TSW Training
Y Coleg Merthyr Tudful
Coleg Merthyr Tudful yw un o'r colegau sy'n perfformio orau yng Nghymru. Gyda dros 2,500 o ddysgwyr yn astudio ar ein prif gampws coleg o'r radd flaenaf a'r Ganolfan Diwydiannau Creadigol arbenigol - REDHOUSE (Yr Hen Neuadd y Dref), rydym yn darparu addysg a hyfforddiant o gyrsiau Safon Uwch ôl-16 a chyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau hyd at lefel prifysgol a chymwysterau proffesiynol, gan gynnwys Graddau Sylfaen, AAT a TAR.